Pont nofiol

Pont gychod yng Ngogledd Iwerddon yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Pont sydd yn defnyddio badau isel neu arnofion eraill i nofio ar y dŵr yw pont nofiol, pont ysgraffau, neu bont gychod. Dibynna cryfder y bont i ddal pwysau ar hynofedd yr hyn sy'n ei chynnal. Hwn yw'r math amlaf o bont filwrol a gynhyrchir dros dro er mwyn cludo milwyr ac offer ar draws afon neu lyn, ond defnyddir pontydd nofiol am resymau eraill hefyd.[1]

Badbont ar draws Afon Hafren yn yr Amwythig. Ffotograff gan Geoff Charles (1950).
  1. (Saesneg) pontoon bridge. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mai 2017.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search